DEIFWYR MÔN DIVERS

Rydym yn glwb deifio BSAC wedi'i leoli yng Nghlwb Hwylio Caergybi ar Ynys Môn.

Rydym yn deifio drwy'r flwyddyn, yn y môr pryd bynnag mae’n bosib ac mewn chwareli lleol pan fydd y môr yn troi'n frown yn y gaeaf.

Mae gennym ethos cadwraeth gref ac rydym yn cydweithio'n rheolaidd â sefydliadau cadwraeth forol leol fel Project Seagrass, Seasearch, North Wales Wildlife Trust, a’r Porcupine Marine Natural History Society.

Os ydych â diddordeb mawr mewn diogelu'r amgylchedd morol, ni ydy’r clwb i chi!

Underwater Anglesey talks at Plas y Brenin Outdoor Pursuits Centre

Seasearch Gogledd Cymru

Mae Seasearch yn sefydliad cenedlaethol sy'n defnyddio deifwyr gwirfoddol a pobl sy’n snorclio i weithio gyda'i gilydd ar gyfer cadwraeth forol.

Mae llawer o aelodau DMD yn weithgar iawn yn ein cangen Seasearch lleol, gan gyfrannu'n rheolaidd at y gwaith cadwraeth forol y mae Seasearch yn ei wneud,

Porcupine Marine Natural History Society

.Mae'r gymdeithas yn cymryd ei henw o'r llong arolwg morwrol sef HMS Porcupine, a oedd yn gwneud teithiau gwyddonol yn gogledd dwyrain yr Iwerydd a Môr y Canoldir ym 1869 a 1870. Gwnaeth y carthu cefnfor dwfn cyntaf erioed ar gyfer creaduriaid byw ym 1869, gan arwain at enwi'r Porcupine Bank oddi ar arfordir gorllewinol Iwerddon.

Mae gan PMNHS fwletin, cynhadledd flynyddol, ac mae'n cynnal cyrsiau yn y maes morol bob blwyddyn.

Ar y cyrsiau maes, mae grŵp mawr o arbenigwyr a gwyddonwyr morol yn ymgynnull am wythnos i wneud bioblitz morol mewn ardal benodol.

Rydym yn arolygu ardaloedd rhynglanwol ac islanwol i gael darlun cyflawn o'r amgylchedd morol a'r rhywogaethau sy'n byw yno.

Mae ein cofnodion yn cael eu hychwanegu at Gofiadur Morol, ac yn dod yn rhan o'r gronfa ddata genedlaethol sy'n llywio polisi'r Llywodraeth.

Yn 2022 aethom i Lundy. Yn 2024 byddwn yn mynd i Alderney i neud arolwg arall.

PMNHS Taith Maes i Lundy 2022

Fideo o’n gwwaith deifio yn Gorffennaf 2022 a daith i Ynys Lundy yn Dyfnaint.

Scientific divers from the society surveyed the reefs around Lundy by monitoring specific species (pink sea fans, sunset cup corals, spiny lobsters and potato crisp bryozoans) and recording all obvious life as part of a 'bioblitz' survey.

Work also involved assisting with the Darwin Tree of Life project.